Pili Pala
Canolfan Tylino Aberystwyth
Adfywiwch ac Adsefydlwch
Tylino sy’n addas i chi – o dylino math Spa moethus i therapi chwaraeon ac
adsefydlu anafiadau chwaraeon.
Mae ein therapyddion ymroddedig yma i ofalu amdanoch yn ein ystafelloedd triniaeth cyfforddus a hygyrch yng nghanol Aberystwyth.
Ymarferwyr cymwysedig wedi eu hyswirio
Ystafelloedd triniaeth mewn clinig iechyd penodol
Dewis eang o wahanol arddulliau tylino
Therapyddion gyda blynyddoedd o brofiad
Uwch ymerferwr wrth law i adolygu sumtomau sy’n achosi pryder
Talebau rhodd ar gyfer pob sesiwn ar gael
#1 ar gyfer tylino yn Aberystwyth
Ein Gwasanaethau
Ein tîm tylino yw Lowri Jones a Cara Lucas. Mae gan y ddwy flynyddoedd o brofiad yn darparu therapy tylino arbennig, y naill a’r llall a’i harbenigeddau ei hun.
Mae sgiliau darparu tylino ymlaciol ac adfywiol Lowri yn anghyffelyb, tra mai diddordeb Cara yw darparu tylino chwaraeon a mae hi wrthi’n hyfforddi gyda’r grŵp Movement Therapy Education i ennill ei chymhwyster Therapi Chwaraeon i ychwanegu at ei chymwysterau presennol.
Tylino a Therapi Chwaraeon
Delfrydol ar gyfer pobl sy’n caru chwaraeon a’r rhai sy’n well ganddynt dylino meinwe dwfn.
Bydd Cara yn dechrau eich apwyntiad gydag ymgynghoriad i ddarganfod y ffordd orau ymlaen i chi.
Tylino Spa
Y math o dylino rydym i gyd yn dwli arno ! Lowri sy’n darparu’r sesiynau 30, 45 neu 60 munud hyn a chanolbwyntia ar unrhyw ran ohonoch sy’n teimlo’n llawn tyndra a chranclyd i’ch helpu i deimlo fel pe baech yn arnofio ar awyr.
Tylino Cerrig Poeth
Profiad dymunol dros ben, lle cynhesir cerrig basalt a’u defnyddio fel rhan o dyliniad ymlaciol iawn. Gwynfyd!
Mae eich tylino’n dechrau yma…
Neu ffôniwch — 01970 611 190
“Rhaid i mi ddweud fy mod yn edrych ymlaen at y sesiwn tylino misol gan fe wn y byddaf yn dod oddi yno wedi ymlacio, tyndra ‘r cyhyrau wedi llacio, y cerddediad yn sythach a’r corff yn ystwythach.”