Amdanom

Mae Lowri Jones a Cara Lucas yn lleol i ardal Aberystwyth ac wedi bod yn rhan o’r tîm ers haf 2022.

Medda’r ddwy ar brofiad o weithio mewn gwahanol glinigau a Spas mewn llefydd mor amrywiol â Chaerdydd, Brighton, Ffrainc, Portiwgal a Groeg.

Lowri:

Dw i’n byw’n lleol i Aberystwyth a mae gen i flynyddoedd o brofiad mewn harddwch a therapy tylino. Dw i wedi gweithio yng Nghaerdydd ymhlith nifer o wahanol lefydd a mae gen i lawer o brofiad o weithio mewn salonau a Spas.

Yn fy amser hamdden dw i’n mwynhau mynd am droeon hir a mynd i’r gampfa.

Cara:

Ar ôl ennill fy nghymhwyster Tylino Lefel 3 yn 2017 penderfynais fynd ati i ennill cymhwyster Lefel 3 Tylino Chwaraeon am fy mod yn angerddol am iechyd a ffitrwydd.

Fy niddordebau yw treulio amser gyda fy ffrindiau a ‘nheulu a chadw’n heini drwy wneud gweithgareddau fel hyfforddiant cryfder a chyflyru, yoga, padl-fyrddio a heicio.

Lleolir Pili Pala yn Clinig Corff Ystwyth.